
Cambrian Inn, Aberdâr
Stryd Seymour
Ffôn (01685) 879120
Tafarn bach gyfeillgar yng nghanol tref Aberdâr
Cwrw: 8/10
Mae digonedd o ddewis yma ar gyfer ffans y cwrwau poblogaidd... lagyr (Heineken, Stella Artois, Carlsberg, Castlemaine XXXX), cwrw du neu stout (Guinness Extra Draught, Murphys draught), seidr (Strongbow), chwerw (Flowers best bitter), a'r cwrwau smoothflow (Welsh smooth, a Flowers IPA). Prisiau rhesymol.
Y prif atyniad ar gyfer nifer o bobol yw'r cwrwau casgen diddorol sydd ar gael. Ac er bod un pwmp cwrw casgen ar gael, mae hyn yn newid yn gyson. Heddiw roedd cwrw Electra ar gael o Fragdy Milton (Caergrawnt) yn barod ac yn ffres a blasus gyda'r casgen wedi ei dapio ddoe. Peint cofiadwy iawn : llawer o flas bisgeden a hop, a blas y brag fel sylfaen i'r perfformiad.
Dywed y tafarnwr, Nick Brown : "Rwy'n chwilio am gwrwau dinod gyda chymeriad a gan amlaf yn prynu y casgenni o fragdai anadnabyddus. " Ac felly yn anaml iawn cewch chi yfed yr un hen beint wythnos ar ôl wythnos yn y Cambrian. Os hoffech chi cadarnhau pa gwrwau sydd ar gael, ffoniwch y tafarn ymlaen llaw.
Cefais cipolwg ar frwdfrydedd y tafarnwr ar ôl clywed ei stori am gwrw a brynodd o Fragdy Blindman's (Gwlad yr Haf). Bragwyd 12 ffircyn arbennig gan Fragdy Blindman's... a phrynwyd 2 ohonynt gan Nick Brown ar gyfer ei dafarn yn Aberdâr.
Fe restrir y Cambrian Inn ym mhrif gyhoeddiad yr Ymgyrch Dros Gwrw Go Iawn, sef Good Beer Guide ac mae canghennau yr Ymgyrch yn cwrdd a chynnal eu cyfarfodydd yn aml yno. Rhyw fath o sêl bendith cwrwaidd felly :-).
Bwyd
Prydiau o fwyd ar gael rhwng 12.00pm - 2.30pm. Amrywiaeth o fwydydd ar gael. Nid wyf wedi sgorio bwyd y tafarn yma gan nad oedd cyfle gennyf asesu'r bwyd.
Adloniant: 6/10
Rhywbeth ar gael at ddant pawb yma : jiwcbocs, bwrdd pwl, teledu fawr ar gyfer y rygbi a phêl droed... cornel fach dawel ar gyfer gêm o gardiau neu sgwrs.
Awyrgylch: 8/10
Mae enw da iawn gyda'r tafarn yma yn lleol. Fe ofynais i'r tafarnwr i ddisgrifio prif gymeriad y tafarn a dywedodd Nick Brown taw lle "cartrefol a lle i ymlacio" oedd y Cambrian. A dyna yn gryno sut fuaswn i'n ddisgrifio yr awyrgylch : lle i ymlacio a mwynhau peint a sgwrs. Mae yna cymysgedd o bobol yn defnyddio y tafarn. Mae'r staff a'r tafarnwr yn brofiadol (mae hynny'n bwysig) ac yn awyddus i sicrhau bod yr awyrgylch yn apelio at gynulleidfa eang. Maent wedi llwyddo.
Theatr (Cyflwyniad a Gwasanaeth) : 8/10
Fe hoffwn awgrymu delwedd y theatr i gyfleu pwysigrwydd pethau fel cyflwyniad a gwasanaeth o fewn tafarnau. Rwy'n hoff iawn o'r ffaith fod uniongyrchedd yn theatr y tafarn ac mae pawb yn rhan o'r perfformiad i ryw raddau a bod cymaint o bosibiliadau.
Mae cyflwyniad y Cambrian Inn yn wych. Popeth yn edrych yn lân, sglein ar ddodrefn pren, dim soseri llwch yn orlawn gyda llwch, tai bach yn lân gyda phopeth pwysig yno, dim paent na phapur wal yn edrych yn flêr, y gwydrau wedi ei lanhau yn gywir, y lluniau ar y wal yn addas ayyb.
Gwasanaeth bendigedig sy'n adlewyrchu y proffesiynoldeb sydd wrth wraidd llwyddiant y Cambrian Inn. Y pethau bach - megis cynnig sampl fach o gwrw - sy'n cyfrannu tuag at gyfleu gwasanaeth bendigedig a chofiadwy. Ac hefyd pethau sy'n hynod o bwysig ond yn sylfaenol fel cyswllt llygad pan yn delio gyda pherson arall.
Cyfanswm: 30/40
Yn gryno, dyma tafarn go dda a chyfeillgar sydd yn apelio at gynulleidfa eang ond yn enwedig pobol sydd yn hoff o gwrw traddodiadol. Bwriedir tapio casgen o gwrw gan Fragdy Otley (bragdy meicro newydd a agorwyd yn ddiweddar ym Mhontypridd) cyn bo hir ac ar ôl hynny Xmas Special gan Fragdy Rhymney. Cofiwch cadarnhau gyda'r tafarn ymlaen llaw beth sydd ar gael os yw hynny'n bwysig i chi... a gobeithio cewch cyfle i fwynhau peint yn y Cambrian Inn os ydych yn aros yn Aberdâr.
Ar gael fel ffeil mp3 : 6mb ac yn parhau am 6 munud.
http://img.aberdare.org/audio/cambrianinn.mp3
English language version of this review available here.